MEET OUR MAKERS
PAUL VINING |
PAUL VINING |
|
Paul Vining has been making ceramics for only ten years, but he has been looking at and studying them for much longer. Largely self-taught, Paul works from a studio in Cardiff, producing individual stoneware ceramics in which the emphasis is on ceramic form.
Clay pots are emblematic of civilisation and Paul seeks to combine prehistoric and modernist forms. They follow in a long tradition of vessel-making, not just for use but also for contemplation. He particularly admires the sculptural vessels of twentieth-century master Hans Coper for their restless exploration of form and materiality. Most of Paul’s ceramics are thrown on the wheel; others are coiled, and some produced using both techniques. Paul often combines two or more thrown forms (e.g. bowls) to create a new form, to which he adds a disc, flange or neck. All of Paul’s ceramics are high-fired (usually to about 1280-1290°C), either in an electric kiln, or reduction-fired in a gas kiln that he has built himself. Instead of proprietary glazes, he has developed his own, often using local materials especially wood ash. Although Paul undertakes extensive glaze tests, firing (especially in a gas-fuelled kiln) is prone to the vagaries of the flame, sometimes – but not always! – with serendipitous results. // Mae Paul Vining wedi bod yn gwneud gwaith ceramig ers deng mlynedd yn unig, ond mae wedi bod yn edrych a'u hastudio ers llawer hirach. Gan ddysgu ei hun i raddau helaeth, mae Paul yn gweithio o stiwdio yng Nghaerdydd, gan greu darnau unigol o serameg llestri pridd lle rhoddir pwyslais ar y ffurf seramig. Mae crochenwaith clai yn symbol o wareiddiad ac mae Paul yn ceisio cyfuno ffurfiau cynhanesyddol a modernistaidd. Maent yn dilyn traddodiad hir o greu llestri, nid yn unig at ddibenion ymarferol ond hefyd ar gyfer myfyrdod. Mae'n edmygu'n arbennig y llestri cerfluniol a grewyd gan y meistr o'r ugeinfed ganrif, Hans Coper, oherwydd eu ffordd ddi-baid o archwilio ffurf a natur y deunydd. Mae'r rhan fwyaf o waith ceramig Paul yn cael ei greu ar yr olwyn grochenwaith; mae eraill yn cael eu gwneud trwy ddull coilio, ac mae rhai yn cael eu creu gan ddefnyddio'r ddau dechneg. Yn aml, mae Paul yn cyfuno dwy ffurf neu fwy a grëwyd ar yr olwyn (e.e. powlenni) i greu ffurf newydd, ac yn ychwanegu disg, ymyl neu wddf ati. Mae holl waith ceramig Paul yn cael ei danio ar dymheredd uchel (fel arfer tua 1280-1290°C), naill ai mewn odyn drydan neu drwy broses lleihau ocsigen mewn odyn nwy y mae wedi'i hadeiladu ei hun. Yn hytrach na defnyddio gwydreddau masnachol, mae wedi datblygu ei rai ei hun, gan ddefnyddio deunyddiau lleol yn aml, yn enwedig lludw pren. Er bod Paul yn cynnal profion helaeth ar y gwydreddau, mae'r broses danio (yn enwedig mewn odyn nwy) yn agored i anrhagweladwyedd y fflam, sydd weithiau – ond nid bob amser! – yn arwain at ganlyniadau hap a damwain gwych. |
About Us
Makers Guild Wales
Craft in the Bay The Flourish, Lloyd George Avenue Cardiff CF10 4QH Charity number 1113675 Company number 5608888 |
Visit Us
Craft in the Bay/Crefft yn y Bae
Open daily/ar agor pob dydd, 10- 5 Admission/Mynediad- FREE - AM DDIM |
HOMESHOP
|