MEET OUR MAKERS
Ceramicist/Gwneuthyrwr Cerameg
Jodie Neale is a studio potter and ceramic artist from the Rhondda Valleys. She specialises in wheel thrown pottery and raku firing. Jodie is also known for winning Channel 4’s The Great Pottery Throw Down in 2021.
Jodie has developed two distinctive styles of raku pottery. The first collection comprises of thrown ware, which are laboriously burnished to a smooth finish. They are then decorated using a raku method, whereby horsehair and feathers are precisely applied to a heated pot to create delicate carbon trails and smoke patterns. The second collection incorporates Jodie’s love of glaze chemistry. The pots are meticulously decorated with a masking technique and covered with a glaze. Jodie uses a raku kiln to fire the pots and then plunges them into a bucket of combustible material. The process is renowned for being risky due to the rapid heating and cooling of the pots, although worth it to create the beautiful crackle glaze that raku pottery is renowned for. Jodie says “I hope to produce work that will tell my story as a potter. It will evolve and improve as I do and take on new forms and glazes as I discover them. I see pottery as an opportunity to leave my mark on the world, and hopefully spread a little joy while doing it”. // Crochenydd stiwdio ac artist cerameg o Gymoedd y Rhondda yw Jodie Neale. Mae hi'n arbenigo mewn crochenwaith wedi'i daflu ar olwynion a thanio raku. Mae Jodie hefyd yn adnabyddus am ennill The Great Pottery Throw Down ar Channel 4 yn 2021. Mae Jodie wedi datblygu dwy arddull nodedig o grochenwaith raku. Mae'r casgliad cyntaf yn cynnwys nwyddau wedi'u taflu, wedi'u fyrnio’n llafurus i orffeniad llyfn. Yna maen nhw'n cael eu haddurno gan ddefnyddio dull raku, lle mae blew march a phlu yn cael eu rhoi'n fanwl gywir mewn pot wedi'i gynhesu i greu llwybrau carbon cain a phatrymau mwg. Mae’r ail gasgliad yn ymgorffori cariad Jodie at gemeg gwydredd. Mae'r potiau wedi'u haddurno'n ofalus gyda thechneg guddio a'u gorchuddio â gwydredd. Mae Jodie yn defnyddio odyn raku i danio'r potiau ac yna'n eu plymio i mewn i fwced o ddeunydd hylosg. Mae'r broses yn enwog am fod yn beryglus oherwydd bod y potiau'n cynhesu ac yn oeri'n gyflym, er ei bod yn ddull unigryw i greu'r gwydredd hardd y mae crochenwaith raku yn enwog amdano. Dywed Jodie “Rwy’n gobeithio cynhyrchu gwaith a fydd yn adrodd fy stori fel crochenydd. Bydd yn esblygu ac yn gwella ac yn cymryd ffurfiau a gwydreddau newydd wrth i mi eu darganfod. Rwy’n gweld crochenwaith fel cyfle i adael fy ôl ar y byd, a gobeithio lledaenu ychydig o lawenydd wrth wneud hynny”. |